Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 5 Chwefror 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


259(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch ymadawiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr?

</AI4>

<AI5>

5       Datganiadau 90 Eiliad

 

</AI5>

<AI6>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

(30 munud)

NDM7239 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau bod gan:

(a) bob adeilad preswyl newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod;

(b) bob adeilad preswyl newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio, lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant o gyfanswm y lleoedd parcio.

Cefnogwyr

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)

Russell George (Sir Drefaldwyn)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI6>

<AI7>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Fframweithiau polisi cyffredin: gwaith craffu gan y Cynulliad - Dim cynnig wedi'i Gyflwyno

 

</AI7>

<AI8>

8       Dadl Plaid Cymru - Llygredd Aer

(60 munud)

NDM 7264 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 1. Yn credu bod llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru.

2. Yn nodi nad yw ardaloedd mawr o Gymru yn monitro ansawdd aer.

3. Yn galw am ddeddf aer glân i Gymru, a fyddai’n cynnwys mesurau i:

a) rhoi’r hawl i gymunedau gael offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai;

b) creu seilwaith a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle bo hynny’n briodol;

c) diwygio’r broses gynllunio i’w gwneud yn ofynnol i effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o bwys yn y system gynllunio;

d) cyflymu’r broses o drawsnewid i system drafnidiaeth drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu diddymu’n raddol erbyn 2030.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw am rwydwaith cenedlaethol newydd ar gyfer monitro llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu presennol Cymru i fonitro.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi ymhellach fod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad yw effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu deall yn llawn eto.

Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)

Ym mhwynt 3, dileu 'a fyddai’n cynnwys mesurau i:' a rhoi yn ei le 'ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau pendant i atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio deddfwriaeth lle y bo angen, er mwyn:'.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd cyn is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny:

'ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd;

mandadu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth statudol ar ansawdd aer bob pum mlynedd; '

Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 3(a), cynnwys ', a chyflwyno "hawl i anadlu"' ar ôl 'ysbytai '.

 

</AI8>

<AI9>

9       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7262 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Pa ddyfodol i ffermydd cyngor?

Mae gan ffermydd Cyngor ran bwysig i’w chwarae yn nyfodol ein diwydiant amaeth, ond mae’r gwerthiant cynyddol gan gynghorau dan bwysau ariannol yn peryglu’r dyfodol hwnnw.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Chwefror 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>